Atebion Dysgu a Datblygu
Mae Acorn yn ddarparwr blaenllaw ym maes atebion hyfforddiant, dysgu a datblygu gyda 1,000 o unigolion yn derbyn hyfforddiant gan Acorn bob mis.
Rydym yn cynllunio, cyflenwi a gwerthuso ystod gynhwysfawr o atebion hyfforddiant a datblygu i wasanaethu anghenion busnesau ac unigolion.
Bydd Acorn yn cynnal asesiad cyflawn o'r gweithlu (dros dro a pharhaol) ac yn llunio cynllun hyfforddiant manwl a rhagolwg cyllideb ar gyfer cleientiaid. Mae cymorth i sicrhau cefnogaeth ariannu briodol yn rhan allweddol o'n gwasanaeth. Hefyd, fel darparwr hyfforddiant cydnabyddedig Llywodraeth Cynulliad Cymru, gyda mynediad at ein cefnogaeth ariannu ein hunain, gallwn reoli ystod o ddewisiadau ariannu sydd ar gael yn seiliedig ar gymhwysedd ymgeiswyr.
view in English