Acorn Logo - Link: Home
permanent and temporary recruitment learning and development solutions - acornpeople.com
Learning and Development
Link: Learners Link: Employers Link: Our Locations Link: Latest News Link: Acorn Recruitment Link: Get In Touch Link: Site Map
Vacancy Search
Link: Client Extranet
Link: Quality
Link: List of Courses
Link: Management Development
Link: IT Courses
Link: Join Acorn Recruitment
Link: Other Links
Part of the Synergie Group of Companies
Wales Millenium Centre

 

Atebion Dysgu a Datblygu

Mae Acorn yn ddarparwr blaenllaw ym maes atebion hyfforddiant, dysgu a datblygu gyda 2,500 o unigolion yn derbyn hyfforddiant gan Acorn bob mis.

Rydym yn cynllunio, cyflenwi a gwerthuso ystod gynhwysfawr o atebion hyfforddiant a datblygu i wasanaethu anghenion busnesau ac unigolion.

Bydd Acorn yn cynnal asesiad cyflawn o'r gweithlu (dros dro a pharhaol) ac yn llunio cynllun hyfforddiant manwl a rhagolwg cyllideb ar gyfer cleientiaid. Mae cymorth i sicrhau cefnogaeth ariannu briodol yn rhan allweddol o'n gwasanaeth. Hefyd, fel darparwr hyfforddiant cydnabyddedig Llywodraeth Cynulliad Cymru, gyda mynediad at ein cefnogaeth ariannu ein hunain, gallwn reoli ystod o ddewisiadau ariannu sydd ar gael yn seiliedig ar gymhwysedd ymgeiswyr.

Fel un o ddarparwyr hyfforddiant blaengar mwyaf y DU, mae gan Acorn sylfaen cleientiaid helaeth a gallu eang iawn sy'n cynnwys:

  • rhaglenni NVQ achrededig
  • datblygu rheolaeth 
  • rhaglenni cyrsiau agored 
  • Rhaglenni Ymsefydlu
  • Cyrsiau a chymwysterau TG (ECDL) 
  • rhaglenni pwrpasol

Mae ein haseswyr diwydiant-gymwys yn darparu cyrsiau safonol ac wedi eu teilwrio ar gyfer sefydliadau ym meysydd gweithgynhyrchu, arlwyo, canolfannau galw, manwerthu, sector cyhoeddus a nifer fawr o sectorau eraill lle mae staff o ansawdd yn hollbwysig er mwyn cefnogi llwyddiant sefydliad.

Mae Acorn yn ddarparwr hyfforddiant cymeradwyedig i Lywodraeth Cynulliad Cymru ac mae'n gweithio mewn partneriaeth â'r Gwasanaeth Cyflogaeth ac amryw sefydliadau addysg bellach. Darparwn gyngor a chefnogaeth ar ariannu llywodraeth ar y lefelau Rhanbarthol, Cenedlaethol ac Ewropeaidd.

Fel darparwr hyfforddiant blaenllaw yn gweithredu o'n cyfleusterau hyfforddiant mwyaf modern, ein nod yw bod y cyntaf i gynnig rhaglenni hyfforddiant a chymwysterau newydd wrth iddynt ddod i'r amlwg - megis y Drwydded Yrru Cyfrifiadurol Ewropeaidd.

Nod Adran Dysgu a Datblygu Acorn yw sefydlu'r gefnogaeth fwyaf effeithiol sydd ei hangen ar gyfer yr holl wasanaethau hyfforddi a sicrhau bod ein cleientiaid yn cael mynediad at y safonau mwyaf proffesiynol o ran cyflenwi, hyblygrwydd a gwasanaeth cwsmer i wella eu mantais gystadleuol.

Os ydych yn fusnes yn chwilio am raglenni hyfforddiant a datblygu sy'n mynd i'r afael â heriau gwirioneddol busnes neu'n ddysgwr sydd am ddatblygu eich gyrfa drwy gasglu gwybodaeth a sgiliau drwy raglen ddysgu seiliedig ar waith, gall Acorn eich cynorthwyo.

Cysylltwch â ni ar: 01633 663000 24-awr 0845 650 4000
e: cliciwch yma

    printer friendly version
     

    learners | employers | get in touch | our policies | site map | copyright © Acorn 2005
    Acorn is the trading name for Acorn Recruitment Limited and Acorn Learning Solutions Ltd
    Registered in England, 3358533 and 04217753

    Investor in People ISO ESF >lsc ELWa